Heneb: The Trust for Welsh Archaeology

Heneb: The Trust for Welsh Archaeology Cyfoethogi bywydau trwy Archaeoleg

Enriching Lives through Archaeology

https://heneb.org.uk/links/

🔎 Dyma ddetholiad o'r arteffactau rydym wedi dod ar eu traws yn Amgueddfa Ceredigion, a ddarganfuwyd i gyd yng Nghastell...
29/08/2026

🔎 Dyma ddetholiad o'r arteffactau rydym wedi dod ar eu traws yn Amgueddfa Ceredigion, a ddarganfuwyd i gyd yng Nghastell Aberystwyth yn ystod cloddiadau rhwng 1903 a 1988. Mae'r casgliad o ddeunydd o'r castell yn un helaeth iawn, gyda llawer o grochenwaith, gwaith haearn a deunyddiau adeiladu.

🐖 Dyma rai eitemau a ddaliodd ein llygad wrth edrych drwy'r casgliad hwn, er mwyn rhoi syniad i chi o'r amrywiaeth o ddeunyddiau rydym wedi'u gweld a'u cyflwr. Mae'r rhain yn cynnwys dis esgyrn (a'n hoff wrthrych, mochyn Stanhope o'r 1860au), crib esgyrn, allweddi a byclau haearn, hen filwyr tegan, darnau o grochenwaith, a'r panel ffenestr bach trionglog plwm.

🏰 Yn ogystal â'r archaeoleg sy'n ymwneud â chyfnod canoloesol y safle, rydym hefyd wedi mwynhau gweld yr amrywiol bethau bach a gollwyd dros y blynyddoedd gan ymwelwyr diweddarach â'r castell.

🏛️ Mae Amgueddfa Ceredigion Museum ar gau dros dro tra bo gwaith adnewyddu yn cael ei wneud. Fodd bynnag, bydd modd gweld mwy o gasgliad Castell Aberystwyth yn orielau'r amgueddfa pan fydd yn ailagor.

Yn y cyfamser, gallwch ddarllen mwy am Gastell Aberystwyth a'r cloddiadau ar Archwilio.
🔗 https://buff.ly/SjtiwvS

(graddfa = 10 cm)
__

🔎 Here are a selection of the artefacts we have come across in Amgueddfa Ceredigion Museum which were all found at Aberystwyth Castle during excavations between 1903 and 1988. The assemblage of material from the castle is very large with lots of pottery, iron work and building materials.

🐖 Here are a few bits that caught our eye as we were looking at this collection to give you an idea of the range of materials we've encountered and their condition - from bone dice (and our favourite Stanhope pig from the 1860's), a bone comb, to iron keys and buckles, old toy soldiers, pottery sherds, and this small triangular leaded windowpane.

🏰 As well as archaeology relating to the medieval occupation of the site, we have also loved seeing the bits and bobs that have been lost in later years by subsequent visitors to the castle.

🏛️ Amgueddfa Ceredigion Museum is temporarily closed as it undergoes refurbishment - but you can see more of the Aberystwyth Castle collection in the museum galleries when it re-opens.

Meanwhile - you can read more about Aberystwyth Castle and the excavations on Archwilio.
🔗 https://buff.ly/UXF2IkD

(scale = 10cm)

27/08/2026



⛏️ Yn mis mehefin, ddaru tîm Gwasanaethau Maes Clwyd-Powys Heneb wedi dychwelyd i Gastell Dinas Brân ochr yn ochr â thîm o wirfoddolwyr lleol. Yn dilyn cloddiad cymunedol mis Medi diwethaf, pan agorwyd ffos o fewn y porthdy, eleni ymestynnwyd y gwaith i’r glacis a’r gwrthglawdd ar ochr gogledd-ddwyreiniol y safle. Roedd gwaith eleni’n cynnwys dwy ffos: un wedi’i lleoli ar gopa’r clawdd, a’r llall o fewn ffos y gwrthglawdd. Cafodd ein tîm gwych o wirfoddolwyr, gyda chymorth ceidwaidau o Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, eu harwain i gloddio’n ofalus drwy sawl haen llawn gerrig er mwyn cyrraedd priddoedd canoloesol.

🪨 Rhoddodd y haenau hyn gasgliad sylweddol o ddeunydd o’r y drydedd ar ddegfed ganrif, gan gynnwys casgliad arbennig o crochenwaith statws uchel, offerynau haearn, sorod, esgyrn anifeiliaid a darnau mawr o farmor calch. Drwy weithio’n ofalus ac yn ddyfal drwy briddoedd wedi’u claddu, llwyddodd y tîm i gyrraedd yr hyn a gredir fod waelod y gwrthglawdd o’r Oes Haearn, sy’n ymddangos ei fod wedi’i dorri’n uniongyrchol i’r graig wely. Yn y cyfamser, yn y ffos lai ar ben y gwrthglawdd, cafwyd gwell dealltwriaeth o’i adeiladwaith. Nodwyd twll pyst mawr, a gwelwyd ei fod wedi’i lenwi â cherrig - gan awgrymu y gallai’r fod y gwrddglawdd wedi’i adeiladu’n wreiddiol o bren.

🤠 Mae bob amser yn gyflawniad arbennig mewn archaeoleg pan fo cwestiynau ymchwil cychwynnol yn dechrau cael eu hateb. Ni fydd y ganlyniad hwn wedi bod yn bosibl heb ein gwirfoddolwyr ymroddedig. Bydd yn rhaid i ni aros yn amyneddgar am ganlyniadau’r samplau pridd er mwyn pennu dyddiadau a chadarnhau ag ydym wedi cyrraedd sylfeini’r Oes Haearn Bryngaer Castell Dinas Bran.

27/08/2026



⛏️ In June, Heneb’s Clwyd-Powys Field Services team returned to Castell Dinas Brân alongside a group of local volunteers. Following the community excavation carried out last September, when a trench was opened within the gatehouse, this year’s work was extended to the rampart and counterscarp on the north-eastern side of the site.
This year's excavation involved two trenches: one located on the crest of the rampart, and the other within the counterscarp ditch. Our fantastic team of volunteers, supported by wardens from the Clwydian Range and Dee Valley National Landscape, carefully excavated through several stony layers to reach medieval soils.

🪨 These layers produced a substantial collection of thirteenth-century material, including an exceptional assemblage of high-status pottery, slag, animal bone, and large fragments of limestone mortar. By working carefully and methodically through the buried deposits, the team successfully reached what is believed to be the base of the Iron Age counterscarp ditch, which appears to have been cut directly into the bedrock.
Meanwhile, in the smaller trench at the top of the counterscarp bank, a better understanding of its construction was gained. A large posthole was identified and found to have been packed with stones, suggesting that the rampart may originally have been timber-built.

🤠 It is always a particularly rewarding achievement in archaeology when initial research questions begin to be answered. This progress would not have been possible without our dedicated volunteers. We must now wait patiently for the results of the soil samples to establish dates and confirm whether we have indeed reached the Iron Age foundations of Castell Dinas Brân hillfort.

Bilingual PostYr wythnos ddiwethaf, cawsom ddiwrnod gwych yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o gloddiadau Dyffryn Maes Glas ...
26/08/2026

Bilingual Post

Yr wythnos ddiwethaf, cawsom ddiwrnod gwych yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o gloddiadau Dyffryn Maes Glas ac Abaty Basingwerk, yn rhoi darnau o deils llawr mynachaidd canoloesol at ei gilydd a ddarganfuwyd yn ystod y ffosydd prawf a a***nnwyd gan Cadw yn Abaty Basingwerk, mewn cydweithrediad â Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Gan ddod â'r holl ddarnau o deils addurnedig a gafwyd o'r safle ynghyd, defnyddiodd staff a gwirfoddolwyr dechnegau olrhain, sganio a throshaenau digidol i ail-greu nifer o ddyluniadau cymhleth. Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd cwblhau dyluniad rhyfeddol o farchog ar gefn ceffyl. Roedd gwaith blaenorol yn yr abaty wedi adnabod dim ond hanner blaen y ceffyl a'r marchog, ond drwy gyfateb a chydosod yn ofalus nifer o ddarnau bach a gafwyd yn ystod y cloddiadau diweddar, llwyddwyd i ddatgelu'r rhan goll a chwblhau'r dyluniad am y tro cyntaf.
Roedd yn ddiwrnod gwerth chweil o waith tîm ac amynedd, wedi'i hwyluso'n rhagorol gan Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ac fe'i cynhaliwyd yn Ysgol Fictoraidd y parc.

Last week, we had a fantastic day working with volunteers from the Greenfield Valley Museum Heritage Park and Basingwerk Abbey excavations, piecing together medieval monastic floor tiles discovered during the Cadw-funded trial trenching undertaken at Basingwerk Abbey in collaboration with Liverpool John Moores University.
Bringing together all of the decorated tile fragments recovered from the site, staff and volunteers used tracing, scanning, and digital overlays to reconstruct several intricate designs. Among the highlights was the completion of a remarkable mounted knight. Previous work at the abbey had identified only the front half of the horse and rider, but by carefully matching and assembling several small fragments recovered during the recent excavations, we were able to reveal the missing section and complete the design for the first time.
It was a rewarding day of teamwork and patience excellently facilitated by the Greenfield Valley Heritage Park (Working within the park's Victorian school).

Yr wythnos ddiwethaf, cawsom ddiwrnod gwych yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o gloddiadau Dyffryn Maes Glas ac Abaty Basingwerk, yn rhoi darnau o deils llawr mynachaidd canoloesol at ei gilydd a ddarganfuwyd yn ystod y ffosydd prawf a a***nnwyd gan Cadw yn Abaty Basingwerk, mewn cydweithrediad â Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Gan ddod â'r holl ddarnau o deils addurnedig a gafwyd o'r safle ynghyd, defnyddiodd staff a gwirfoddolwyr dechnegau olrhain, sganio a throshaenau digidol i ail-greu nifer o ddyluniadau cymhleth. Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd cwblhau dyluniad rhyfeddol o farchog ar gefn ceffyl. Roedd gwaith blaenorol yn yr abaty wedi adnabod dim ond hanner blaen y ceffyl a'r marchog, ond drwy gyfateb a chydosod yn ofalus nifer o ddarnau bach a gafwyd yn ystod y cloddiadau diweddar, llwyddwyd i ddatgelu'r rhan goll a chwblhau'r dyluniad am y tro cyntaf.
Roedd yn ddiwrnod gwerth chweil o waith tîm ac amynedd, wedi'i hwyluso'n rhagorol gan Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ac fe'i cynhaliwyd yn Ysgol Fictoraidd y parc.

Mae Heneb wedi bod yn gweithio tu ôl i'r llenni ar brosiect peilot ar gyfer Llywodraeth Cymru i asesu'r casgliadau arche...
21/08/2026

Mae Heneb wedi bod yn gweithio tu ôl i'r llenni ar brosiect peilot ar gyfer Llywodraeth Cymru i asesu'r casgliadau archeolegol sydd ar hyn o bryd yn cael eu cadw mewn amgueddfeydd ledled Cymru. Yn ogystal â'r deunyddiau a welwch yn cael eu harddangos yn orielau amgueddfeydd ledled Cymru, mae amgueddfeydd hefyd yn storio ac yn gofalu am symiau mawr o ddeunydd archeolegol ychwanegol sydd wedi'i adfer o gloddiadau. Mae lawer ohono'n annhebygol o gael ei arddangos, ond serch hynny yn aml mae'n cynnwys amrywiaeth eang o wrthrychau cyfarwydd a ddefnyddiwyd yn y gorffennol ledled Cymru. Gall y rhain ddweud wrthym o beth yr adeiladwyd adeiladau o, pa eitemau domestig, offer ac a***n cyfred oedd yn cael eu defnyddio, a pha addurniadau yr oedd pobl yn eu gwisgo. Mae angen llawer o le storio a gwaith cynnal a chadw ar bob un o'r gwrthrychau hyn.

Rydym wedi bod yn ail-ymweld â chasgliadau archeolegol ledled Cymru er mwyn adolygu eu harwyddocâd, eu potensial ymchwil a'u cyflwr. Rydym hefyd yn llunio cyfres o gatalogau ac adroddiadau i gefnogi'r gwaith o reoli'r deunydd hwn yn y dyfodol.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cychwyn ar ail gam ein hasesiadau o gasgliadau amgueddfeydd, a byddwn yn rhannu rhai o'r gwrthrychau y byddwn yn eu darganfod tu ôl i'r llenni na fyddech fel arall o bosibl yn eu gweld yn orielau eich amgueddfa leol. Ein harhosfa’n gyntaf yw Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau arni a dangos i chi beth rydym yn ei ddarganfod.

Heneb have been working behind the scenes on a pilot project for Welsh Government to assess the archaeology collections ...
21/08/2026

Heneb have been working behind the scenes on a pilot project for Welsh Government to assess the archaeology collections currently held in Welsh museums. As well as the material you see on display in museum galleries across Wales, museums also store and care for large quantities of additional archaeological material that has been recovered from excavations, a lot of which is unlikely to be displayed, but nonetheless often includes a vast array of familiar objects that were utilised in the past across Wales. They can tell us what buildings were constructed from, what domestic items, tools and currency were used and what adornments people wore. All of these objects require considerable storage space and maintenance.

We’ve been revisiting archaeology collections across Wales to review their significance, research potential and condition. We are also compiling a series of catalogues and reports to support the management of this material in the future.

Over the next few months we will be embarking on phase 2 of our museum collection assessments, and we’ll be sharing some of the objects we uncover behind the scenes that you might not otherwise see in your local museum galleries. Our first stop is Ceredigion Museum in Aberystwyth and we can’t wait to get started and show you what we find.

Oes gennych ddiddordeb yn archaeoleg ac eisiau gwybod sut y gallech ymuno ag un o'n cloddiadau cymunedol a.y.b., neu eis...
20/08/2026

Oes gennych ddiddordeb yn archaeoleg ac eisiau gwybod sut y gallech ymuno ag un o'n cloddiadau cymunedol a.y.b., neu eisoes yn un o'n gwirfoddolwyr ond angen mwy o wybodaeth am beth sydd ar y gweill? Dewch draw i'n swyddfeydd yn Sain Ffagan am baned gyda'n harcheolegwyr allgymorth bydd yn ateb eich cwestiynau.

Do you have an interest in archaeology and want to know how you can get involved with our community digs and events? Or are you already a volunteer but want more information on what's going on? Come along to our office in St Fagans for a cuppa with our outreach archaeologists to answer these and other questions.

🕑️ 26/08/26
📆 10:00 - 12:00
📍 Ysgubor Fawr, Amgueddfa Sain Ffagan - St Fagans Museum, CF5 6XB

📧 RSVP - [email protected]

Address

The Corner House, 6 Carmarthen Street
Llandeilo
SA196AE

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

+441938532772

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Heneb: The Trust for Welsh Archaeology posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Heneb: The Trust for Welsh Archaeology:

Shortcuts

Share