Tir a Bro Gwasanaeth Ymgynghori

Gwasanaeth hyfforddiant ac ymgynghori cymunedol dwyieithog yn cynnig cefnogaeth hyblyg wedi ei deilwra i unigolion, grwpiau, mentrau gwirfoddol a chymunedol, yn arbenigo mewn datblygu sgiliau a chapasiti grwpiau a chymorth i ddatblygu cymunedau cynaladwy

03/09/2026
🌟🌎Gwersi Daearyddiaeth Lefel A/ AS arlein trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Tir a Bro 🌎🌟Ydych yn chwilio am gymorth tiwtor Dae...
21/08/2026

🌟🌎Gwersi Daearyddiaeth Lefel A/ AS arlein trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Tir a Bro 🌎🌟

Ydych yn chwilio am gymorth tiwtor Daearyddiaeth Lefel A/AS ar gyfer ail-eistedd, adolygu, gwella a datblygu sgiliau yn y pwnc?

Mae ganddom argaeledd ar hyn o bryd ar gyfer y tymor newydd - archebwch eich lle nawr!

Cymorth ychwanegol gyda -
✅Deall cysyniadau allweddol daearyddiaeth
✅Gwella sgiliau ysgrifennu traethodau/ ymatebion estynedig neu ymateb i ddata
✅Gwaith maes neu ddefnyddio ystadegau
✅Adolygu a pharatoi at arholiad/ asesiad

Rwy’n athrawes a hyfforddwr profiadol, gyda phrofiad dysgu Daearyddiaeth hyd at safon Lefel 'A ' arlein, mewn ysgolion uwchradd a choleg addysg bellach, yn ogystal â hyfforddi grwpiau a mentrau cymunedol.

Rwy’n darparu gwersi Daearyddiaeth Lefel A/AS ychwanegol 1 i 1 arlein ar Zoom, Teams neu debyg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cefnogaeth hyblyg i gydfynd â'r angen unigol.

Cysylltwch â mi yn breifat os am ragor o wybodaeth neu ar e-bost- [email protected] 📨

Croeso i chi rannu hwn. Diolch.

Gweminar defnyddiol gyda staff Perthyn ddoe yn son am sut gall y rhaglen gefnogi prosiectau mewn cymunedau Cymraeg yng N...
20/08/2026

Gweminar defnyddiol gyda staff Perthyn ddoe yn son am sut gall y rhaglen gefnogi prosiectau mewn cymunedau Cymraeg yng Ngwynedd, Mon a Conwy.

Mae cronfa grantiau Perthyn bellach ar agor - hyd at £10,000 a***n refeniw ar gyfer grwpiau sydd am wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau - Peidiwch â cholli'ch cyfle i wneud cais am gyllid i gefnogi eich syniadau a'ch prosiectau.

🔗: https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/perthyn/

🎉Mae Grantiau Perthyn yn ôl!

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer grwpiau cymunedol ledled Cymru sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Peidiwch â cholli'ch cyfle i wneud cais am gyllid i gefnogi eich syniadau a'ch prosiectau.

🔗: https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/perthyn/

Gwych gweld yr erthygl yma mewn rhifyn diweddar o Llygaid y Dydd, papur bro ardal Dolgellau - yn dilyn ail agor Neuadd B...
11/08/2026

Gwych gweld yr erthygl yma mewn rhifyn diweddar o Llygaid y Dydd, papur bro ardal Dolgellau - yn dilyn ail agor Neuadd Bentref Llanfachreth wedi cwblhau y gwaith o adnewyddu, addasu ac uwchraddio'r Neuadd, i ddatblygu cyfleuster modern i’r gymuned fydd yn gynaladwy ac addas i ofynion y 21ain ganrif.

Mae Tir a Bro yn falch iawn o fod wedi gweithio ar y ceisiadau llwyddiannus i gael grantiau refeniw a chyfalaf i wireddu'r prosiect hwn a sicrhau dyfodol llewyrchus i Neuadd Bentref Llanfachreth.

Ydach chi'n grwp yn Ynys Mon, Gwynedd neu Conwy a syniad a allai wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Cofiwch am y sesiynn...
10/08/2026

Ydach chi'n grwp yn Ynys Mon, Gwynedd neu Conwy a syniad a allai wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?

Cofiwch am y sesiynnau arlein yma gan Perthyn 👇

📅 12 Awst 2026 | 6:00yh - 7:00yh https://us06web.zoom.us/.../register/VbsECmSISrSU6CgoILJhjQ
📅 19 Awst 2026 | 10:00yb - 11:00yb https://us06web.zoom.us/.../register/DIwsDObnQLGIwwkmUG7-QQ

Mae grantiau Perthyn hyd at £10,000 ar gael i grwpiau cymunedol Cymraeg - yn agor 17/08/2026.

💡 O Syniad i Weithred: Ysbrydoli Cymunedau 💡

Oes gennych chi syniad a allai wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?

Ymunwch â ni i ddarganfod sut mae cymunedau ledled Cymru wedi troi syniadau uchelgeisiol yn brosiectau llwyddiannus. Byddwn yn rhannu straeon ysbrydoledig, gwersi a syniadau, ac yn trafod sut y gall Perthyn eich cefnogi ar eich taith.

📅 12 Awst 2026 | 6:00yh - 7:00yh https://us06web.zoom.us/meeting/register/VbsECmSISrSU6CgoILJhjQ
📅 19 Awst 2026 | 10:00yb - 11:00yb https://us06web.zoom.us/meeting/register/DIwsDObnQLGIwwkmUG7-QQ

Mae'r sesiynau hyn ar agor i gymunedau Cymraeg yn Ynys Môn, Conwy a Gwynedd.

✨ Dewch draw i gael ysbrydoliaeth, cysylltu ag eraill a gweld sut y gall eich syniad chi ddod yn weithred. ✨

Braf cael cwpwl o ddiwrnodiau yn Eisteddfod y Garreg Las wythnos diwethaf.Gwych gweld pwyslais ar gynaladwyedd, Arbed , ...
10/08/2026

Braf cael cwpwl o ddiwrnodiau yn Eisteddfod y Garreg Las wythnos diwethaf.

Gwych gweld pwyslais ar gynaladwyedd, Arbed , Ailgylchu ac Ailddefnyddio ar y maes a gwaith plant lleol yn harddu'r Pentre Gwyddoniaeth. 🎍🪴🌺🍃♻️

10/08/2026

Rhag ofn bod hwn yn ddefnyddiol y tymor nesaf yma - dyma adnodd newydd gwych gan Extend Education i gefnogi astudio ac adolygu TGAU Daearyddiaeth. 👇

Ar gael i’w prynu ar wefan https://www.ffolio.cymru

⭐️Pob lwc i'n myfyrwyr Daearyddiaeth Safon Uwch gyda'u canlyniadau wythnos yma. ⭐️
10/08/2026

⭐️Pob lwc i'n myfyrwyr Daearyddiaeth Safon Uwch gyda'u canlyniadau wythnos yma. ⭐️

Address

Llanfrothen
Penrhyndeudraeth
LL486BZ

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Tir a Bro posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Tir a Bro:

Shortcuts

Share