Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, Wrexham (Wrecsam).

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn darparu gwybodaeth AM DDIM, cefnogaeth ac arweiniad ar bob agwedd o ofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc yn Wrecsam.

Rhannwyd ar ran AVOWCymraeg Pob Dydd yn y CartrefCyflwyniad 2 awr i’r Gymraeg, gan roi cyfle i chi ddysgu geiriau ac yma...
18/09/2026

Rhannwyd ar ran AVOW
Cymraeg Pob Dydd yn y Cartref
Cyflwyniad 2 awr i’r Gymraeg, gan roi cyfle i chi ddysgu geiriau ac ymadroddion Cymraeg newydd i’w defnyddio mewn arferion bob dydd, a’r hyder i’w defnyddio pobman! Yn cynnwys gwybodaeth am adnoddau defnyddiol i'w defnyddio fel teulu, yn ogystal â ble i ddod o hyd i gymorth pellach.

Wedi'i a***nnu'n llawn ar gyfer Wythnos Dysgwyr Oedolion. Wedi’i drefnu fel rhan o waddol Eisteddfod Wrecsam.
📍Ysgol CP Gwersyllt, Dodds Lane, Gwersyllt, Wrecsam
🗓Dydd Mercher 23ain Medi 2026
🕞9.30yb - 11.30yb

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â derbynfa’ r ysgol I archebu eich lle am ddim.

Mae grŵp Little Dippers Dechrau’n Deg yn DYCHWELYD i deuluoedd Dechrau'n Deg!
18/09/2026

Mae grŵp Little Dippers Dechrau’n Deg yn DYCHWELYD i deuluoedd Dechrau'n Deg!

Mae grŵp Little Dippers Dechrau’n Deg yn DYCHWELYD i deuluoedd Dechrau'n Deg!

Bydd y grŵp nesaf yn dechrau ddydd Llun 19eg Hydref (Sesiwn Sefydlu), ac yna bydd 6 sesiwn wythnosol yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc yn dechrau ar ddydd Llun 2il Tachwedd.

Bydd angen i rieni Dechrau'n Deg wneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein a fydd yn cael ei phostio ar ein tudalen Facebook ddydd Llun 21ain Medi am 9:30yb. Dydyn ni ddim yn gallu derbyn unrhyw archebion cyn y dyddiad hwn, a rhaid gwneud pob cais drwy'r ddolen. Bydd archebion yn cael eu derbyn ar sail y cyntaf i’r felin.

Rhannwyd ar ran Stuck in the Middle.Grŵp facebook am ddim i ofalwyr di-dâl. Mae Wedi’ch Dal yn y Canol yn fan diogel, ce...
17/09/2026

Rhannwyd ar ran Stuck in the Middle.
Grŵp facebook am ddim i ofalwyr di-dâl. Mae Wedi’ch Dal yn y Canol yn fan diogel, cefnogol i gysylltu â phobl sy’n deall yn wir beth rydych yn mynd drwyddo.
Mae’r grŵp hwn i chi os...
Rydych yn gofalu am rywun nad yw’n gallu ymdopi heb eich help. Rydych yn cydbwyso gofalu ag a gwaith, magu plant neu fywyd bob dydd. Rydych yn teimlo dan bwysau, yn unig neu fel nad oes neb yn eich deall. Rydych am fan diogel i siarad â phobl sy’n deall.
Dewch i ymuno â ni heddiw
Sganiwch y cod QR i ddod o hyd i ni ar Facebook ac ymuno â’r grŵp.
Efo’n gilydd gallwn ni roi cymorth i fwy o ofalwyr yn ein cymuned.

https://www.facebook.com/groups/997935149110675/

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy wyneb yn wyneb am ddim sydd i gyd am gefnogi cysgu eich plentynHwb Lles Wrecsam | Wellbei...
16/09/2026

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy wyneb yn wyneb am ddim sydd i gyd am gefnogi cysgu eich plentyn

Hwb Lles Wrecsam | Wellbeing Hub Wrexham
Wrexham, Wales
Thursday, September 24 • 1 PM - 3 PM

Mae'r prosiect Adeiladu Gwydnwch hwn ar gyfer rhieni plant a phobl ifanc (0-25) ag anableddau neu anghenion ychwanegol sy'n byw yng Nghymru (gyda diagnosis a heb ddiagnosis). Wedi'i a***nnu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.Mae anawsterau cysgu yn gyffredin mewn plant ac yn fwy cyffredin fyth ymhlith y rhai sydd ag anghenion ychwanegol. Pan fydd plentyn yn ei chael hi'n anodd cwympo i gysgu neu aros i gysgu, gall effeithio ar lesiant y teulu cyfan.
Gweithdy pwrpasol yng Wrecsam yw hwn dan arweiniad Dr Marc Johnson o Clinical Wellness a thîm Contact Cymru, bydd y gweithdy hwn yn ymdrin â:

Deall anatomeg cwsg
Problemau cysgu cyffredin ac achosion posibl
Strategaethau ymarferol i helpu eich plentyn i wella ei gwsg
edrych ar bwysigrwydd cwsg ac awgrymiadau i gefnogi arferion nos
beth i'w wneud os yw'r broblem yn gwaethygu, neu at bwy i weld os nad oes gwelliant
Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol a bydd amser ar gyfer cwestiynau, yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth pellach.

Darperir diodydd cynnes a bwffe i bawb sy'n mynychu.
Yn anffodus, nid oes gennym gyfleusterau gofal plant, sesiwn i oedolion yn unig yw hon felly gwnewch drefniadau eraill ar gyfer gofal plant yn ystod y gweithdy.

Contact: Rydym yn Contact, elusen y DU ar gyfer teuluoedd gyda phlant anabl. Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda'r arweiniad a'r wybodaeth orau bosibl. Rydym yn dod â theuluoedd at ei gilydd i gymorth i'w gilydd.

Ac rydym yn helpu teuluoedd i ymgyrchu, gwirfoddoli a chodi a***n i wella bywydau iddynt eu hunain a phobl eraill. I gael mwy o wybodaeth a chymorth gan Contact, gallwch fynd i: www.contact.org.uk neu anfon e-bost at [email protected].

Pecyn cymorth Cyfathrebu Brechlyn Ffliw Iechyd Cyhoeddus CymruGall ffliw ledaenu'n gyflym mewn amgylcheddau meithrin, ac...
15/09/2026

Pecyn cymorth Cyfathrebu Brechlyn Ffliw Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gall ffliw ledaenu'n gyflym mewn amgylcheddau meithrin, ac mae brechu yn un o'r ffyrdd gorau o helpu i amddiffyn plant ifanc rhag dal a lledaenu'r ffliw. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu pecyn cymorth cyfathrebu ar gyfer meithrinfeydd a lleoliadau blynyddoedd cynnar sy'n cefnogi teuluoedd â phlant 2 a 3 oed.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys adnoddau parod i'ch helpu i hyrwyddo pwysigrwydd brechu ffliw i rieni a gofalwyr, e.e. negeseuon testun a WhatsApp parod. Mae'r pecyn cymorth wedi'i gynllunio i'w gwneud mor hawdd â phosibl i chi rannu gwybodaeth ddibynadwy gyda theuluoedd.

Gallwch gael mynediad i'r pecyn cymorth drwy dudalen we PHW: Pecyn cymorth cyfathrebu brechlyn ffliw - Iechyd Cyhoeddus Cymru neu lawrlwytho o'u platfform Brandkit:

Log into Public Health Wales Asset Library

🚌 Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau bws yng Ngogledd CymruMae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n datblygu cynigion ar gyfer r...
15/09/2026

🚌 Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau bws yng Ngogledd Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n datblygu cynigion ar gyfer rhwydwaith bws newydd ar draws Gogledd Cymru ac mae’n awyddus i glywed gan bobl sy’n byw, sy’n gweithio ac sy’n teithio yn y rhanbarth.
Gallai’ch sylwadau chi helpu i lunio dyfodol gwasanaethau bws yn y dyfodol, gan sicrhau bod y rhwydwaith yn fwy cydgysylltiedig, yn fwy dibynadwy ac yn haws ei ddefnyddio.
👉 Gallwch ddweud eich dweud a rhannu eich sylwadau ar y rhwydwaith arfaethedig yma: https://dweudeichdweud.trc.cymru/wasanaethau-bysiau-yn-y...

Rhannwyd ar ran BCU Health Improvement Team.Mae'r cwrs yn cynnwys 6 sesiwn wythnosol. Mae Dewch i Goginio yn gwrs ymarfe...
14/09/2026

Rhannwyd ar ran BCU Health Improvement Team.
Mae'r cwrs yn cynnwys 6 sesiwn wythnosol. Mae Dewch i Goginio yn gwrs ymarferol sy'n cynnig addysg am faeth a sgiliau coginio ymarferol mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae'r cwrs yn cefnogi pobl i wella eu hyder, eu gwybodaeth a'u sgiliau wrth baratoi prydau iach, diogel a chost-effeithiol iddynt.

14/09/2026

Gwneud cais am Addysg Gynnar wedi’i Ha***nnu

Mae ceisiadau am leoedd mewn Addysg Gynnar a Ariennir bellach ar agor ar gyfer derbyn ym mis Ionawr 2027.

Mae plant a anwyd rhwng 01/09/2023 a 31/12/2023 yn gymwys i wneud cais am le ar gyfer mis Ionawr 2027

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau – 23 Hydref 2026.

Nid yw sicrhau lle mewn lleoliad blynyddoedd cynnar ar gyfer tymor y gwanwyn neu'r haf yn gwarantu lle i chi yn yr un lleoliad ar gyfer y dosbarth Meithrin sy'n dechrau ym mis Medi. Dylech wneud cais ar wahân ar gyfer y dosbarth Meithrin, ac mae'r ceisiadau hyn yn cael eu prosesu’n unol â'n polisi derbyn.

Os cewch unrhyw anawsterau wrth wneud cais, e-bostiwch ni yn [email protected] neu ffoniwch 01978 298991.

Gwybodaeth am Derbyniadau Ysgol

Address

Wrexham

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share