Ymgynghori Lafan Consulting

Call Directions Website

Ymgynghori Lafan Consulting Gweithio gyda’n clientiaid ar hyd y daith yw nod Ymgynghori Lafan. Trwy gydweithio gallwn wireddu gyda’n gilydd.

Together we can make it happen.

At Lafan Consulting we are committed to working with you.

06/11/2026

Digwyddiad Lafan 2026 | Lafan Event 2026

20 Tachwedd / November Neuadd Ogwen, Bethesda

Mae paratoadau ar waith ar gyfer Digwyddiad Lafan 2026, a gynhelir yn Neuadd Ogwen, Bethesda, ddydd Gwener 20 Tachwedd.

Cyfle i rannu profiadau, clywed safbwyntiau gwahanol a chreu cysylltiadau newydd.

We're bringing together clients, partners and colleagues from different sectors for a morning of presentations and discussions covering education, AI, innovation, heritage, business development and the Welsh economy.

The aim is to share experiences, hear different perspectives and explore opportunities for collaboration.

Tocynnau £25, gan gynnwys cinio | Tickets £25, including lunch

Ymunwch yma: https://lafan.cymru/digwyddiad-lafan

05/11/2026

Diwrnod llwyddiannus o ddysgu yn yr awyr agored! 🌿

Roedd digwyddiad dysgu yn yr awyr agored Tirlun ym Mhrifysgol Bangor ar 12 Hydref yn llwyddiant mawr!

Hoffem fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r holl bartneriaid a fu’n rhan o’r diwrnod, ac i’r myfyrwyr am eu brwdfrydedd a’u cyfranogiad gwych drwy gydol y gweithgareddau.

Roedd yn wych gweld y myfyrwyr yn cymryd rhan mor weithredol, yn rhannu syniadau ac yn archwilio ffyrdd o ymgorffori dysgu yn yr awyr agored yn y cwricwlwm a’r ystafell ddosbarth.

***

A successful day of outdoor learning! 🌿

The Tirlun outdoor learning event at Bangor University on 12 October was a great success!

We’d like to take this opportunity to thank all the partners who helped make the day possible, and the students for their enthusiasm and fantastic participation throughout the activities.

It was great to see the students getting involved, sharing ideas and exploring ways to bring outdoor learning into the curriculum and classroom.

Find out more about Tirlun: www.tirlun.cymru

Addysg Cymru Dysgu Cymru Adnodd Tinint Bangor University RNLI Tirweddau Cymru - Landscapes Wales The Field Studies Council Llywodraeth Cymru Parc Cenedlaethol Eryri - Eryri National Park Parc Cenedlaethol

AI a’r ystafell ddosbarth: pam mae angen pobl yn y broses o hyd? Mae AI yn datblygu’n gyflym, ond mae’n bwysig ein bod n...
04/11/2026

AI a’r ystafell ddosbarth: pam mae angen pobl yn y broses o hyd?

Mae AI yn datblygu’n gyflym, ond mae’n bwysig ein bod ni’n deall sut mae’n gweithio, yn meddwl yn feirniadol am yr hyn mae’n ei gynhyrchu ac yn ei ddefnyddio’n gyfrifol.

Mae Pecyn AI yn adnodd ymarferol i helpu athrawon a dysgwyr i archwilio AI a’i effaith.

📥 Beth am lawrlwytho’r adnodd nawr a dechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth AI 2027?

🔗 https://rundontwalk.co.uk/2026/10/20/ai-awareness-day-keep-humans-in-the-loop/

***
AI in the classroom: keep humans in the loop.

AI is evolving fast, but critical thinking and responsible use matter more than ever.

Run Don't Walk AI resource helps educators and learners explore AI and its impact.

📥 Download the resource now and start preparing for AI Awareness Day 2027!

🔗 https://rundontwalk.co.uk/2026/10/20/ai-awareness-day-keep-humans-in-the-loop/

Digwyddiad Lafan - cadwch y dyddiad!📅 20 Tachwedd 2026📍 Neuadd Ogwen, Bethesda Bethesda🎟️ £25, gan gynnwys cinioAr 20 Ta...
30/10/2026

Digwyddiad Lafan - cadwch y dyddiad!

📅 20 Tachwedd 2026
📍 Neuadd Ogwen, Bethesda Bethesda
🎟️ £25, gan gynnwys cinio

Ar 20 Tachwedd, byddwn yn cymryd drosodd Neuadd Ogwen, Bethesda Bethesda, am ddiwrnod sy’n dod â phobl, sectorau a syniadau ynghyd.

Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau am addysg a deallusrwydd artiffisial, cydweithio rhwng safleoedd UNESCO yng Nghymru, arloesedd a dyfodol busnes ac economi Cymru.

Bydd croeso i westeion gyda choffi o 9.15yb, gyda’r rhaglen yn dechrau am 9.45yb. Bydd cinio am 1.00yp, ac yna gweithdai a gweithgareddau dewisol.

Byddwn yn rhannu mwy o'r rhaglen yn fuan iawn. Am y tro, cadwch y dyddiad a chofrestrwch yma: https://lafan.cymru/digwyddiad-lafan

---

Lafan Event - save the date

📅 20 November 2026
📍 Neuadd Ogwen, Bethesda
🎟️ £25, including lunch

On 20 November, we’re taking over Neuadd Ogwen in Bethesda for a day bringing people, sectors and ideas together.

The programme will explore education and AI, collaboration between UNESCO sites in Wales, innovation, and the future of Welsh business and the economy.

Coffee from 9.15am, with the programme starting at 9.45am. Lunch will be served at 1pm, followed by optional workshops and activities.

We'll be sharing more of the programme very soon. For now, save the date and register here: https://lafan.cymru/digwyddiad-lafan

Mae AI yn dod yn rhan gynyddol o fywyd bob dydd, ond sut gallwn ni sicrhau bod dysgwyr yn deall sut i’w ddefnyddio’n ddi...
28/10/2026

Mae AI yn dod yn rhan gynyddol o fywyd bob dydd, ond sut gallwn ni sicrhau bod dysgwyr yn deall sut i’w ddefnyddio’n ddiogel ac yn gyfrifol?

Ymunwch â’n gweminar i ddarganfod adnodd addysgol pum gwers ar AI, sydd wedi’i addasu a’i gyfieithu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Byddwn yn edrych ar sut y gall yr adnodd helpu dysgwyr i ddeall sut mae AI yn gweithio, archwilio materion fel rhagfarn a chamwybodaeth, a datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol.

📅 26 Tachwedd | 16:00–16:45 | Ar-lein

👉 Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/ai-education-resource-webinargweminar-ai-ar-gyfer-addysgwyr-tickets-2003121488294

***

AI is becoming an increasingly common part of everyday life, but how can we help learners understand and use it safely and responsibly?

Join us for a webinar exploring a five-lesson educational resource on AI, adapted and translated to align with the Curriculum for Wales and the Digital Competence Framework.

Discover how the resource supports learners to explore how AI works, understand issues such as bias and misinformation, and develop the critical thinking skills they need to navigate an increasingly digital world.

📅 26 November | 16:00–16:45 | Online

👉 Register here: https://www.eventbrite.co.uk/e/ai-education-resource-webinargweminar-ai-ar-gyfer-addysgwyr-tickets-2003121488294

Run Don't Walk Addysg Cymru M-SParc Learn Welsh Cardiff - Dysgu Cymraeg Caerdydd

Artificial Intelligence/ Deallusrwydd Artiffisial – Adapted and translated for the Curriculum for Wales

Mae prosiect Sefydlu Coed mewn Rhedyn, partneriaeth rhwng Ymgynghori Lafan Consulting  Woodknowledge Wales  a Kehoe Coun...
26/10/2026

Mae prosiect Sefydlu Coed mewn Rhedyn, partneriaeth rhwng Ymgynghori Lafan Consulting Woodknowledge Wales a Kehoe Countryside Ltd yn datblygu dull ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i drosi tir rhedyn yn goetir cynhyrchiol.

Hyd yma, mae’r prosiect wedi:

🌿 Cwblhau adolygiad helaeth o’r dystiolaeth bresennol
🌿 Datblygu fframwaith i asesu addasrwydd safleoedd
🌿 Nodi gwahanol systemau ar gyfer sefydlu coetir mewn amodau gwahanol
🌿 Datblygu cyfeiriad technegol sy’n rhoi sefydlu coetir wrth wraidd y gwaith

Y nod yw symud y ffocws o reoli rhedyn dro ar ôl tro tuag at sefydlu coetir sy’n gallu cystadlu a ffynnu dros amser, gan leihau’r angen am ymyrraeth barhaus a chreu manteision ehangach i fioamrywiaeth, yr hinsawdd a chymunedau gwledig.

Mae’r gwaith nesaf yn cynnwys mireinio’r fframwaith cymorth penderfyniadau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a pharatoi ar gyfer treialon maes.

Mae’r prosiect arloesi hwn, sy’n mynd i’r afael â her benodol, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni drwy Contracts for Innovation Cymru.

Gwaith ymchwil ac arloesi sy’n edrych ar sut y gallwn wneud mwy gyda’n tir. 🌳

Beth sy'n gwneud Lafan yn wahanol? Nid un arbenigedd sydd gan Lafan. Tîm o arbenigwyr sydd gennym ni. O amaeth a bwyd i ...
22/10/2026

Beth sy'n gwneud Lafan yn wahanol?

Nid un arbenigedd sydd gan Lafan. Tîm o arbenigwyr sydd gennym ni.

O amaeth a bwyd i ymchwil a gwerthuso, addysg, datblygu cymunedol, rheoli prosiectau a marchnata a chyfathrebu – mae gennym ni bobl â phrofiad a sgiliau gwahanol iawn.

A dyna sy’n gwneud Lafan yn wahanol.

Rydyn ni’n dod â’r bobl iawn at ei gilydd ar gyfer pob prosiect, gan gyfuno ein gwahanol sgiliau a phrofiad i ddeall yr her, gweld y darlun ehangach a ffeindio atebion ymarferol sy’n gweithio.

Un tîm. Llawer o arbenigedd. Un nod – eich helpu chi i symud ymlaen.

***

What makes Lafan different?

We’re not a consultancy built around one area of expertise. We’re a team of specialists with a wide range of skills and experience.

From agriculture and food to research and evaluation, education, community development, project management, marketing and communications – our people bring very different perspectives and expertise to the table.

And that’s what makes Lafan different!

Fforwm ARFOR | Datblygu gweithleoedd CymreigYmunwch â ni ar-lein:Dydd Mercher 21 Hydref (yfory)12–1pm ar gyfer cyfarfod ...
20/10/2026

Fforwm ARFOR | Datblygu gweithleoedd Cymreig

Ymunwch â ni ar-lein:
Dydd Mercher 21 Hydref (yfory)
12–1pm ar gyfer cyfarfod nesaf Fforwm ARFOR.

Y tro hwn, byddwn yn trafod datblygu gweithleoedd Cymreig, gyda chyfraniadau byr gan:

- Dylan Llyr – Helo Blod
- Llyr Hughes – Fferyllwyr Llŷn

📅 Dydd Mercher 21 Hydref (YFORY)
🕛 12–1pm
💻 Ar-lein drwy Zoom

Ymunwch â’r drafodaeth: https://us02web.zoom.us/j/86188470724?pwd=lcqIhfOY8xhUg1VqviGCGV2ytXnsL7.1

Os ydych yn bwriadu mynychu, anfonwch nodyn byr at [email protected] i gadarnhau eich presenoldeb.

***

Fforwm ARFOR | Developing Welsh-speaking workplaces

Join us online on Wednesday 21 October (tomorrow), 12–1pm, to discuss developing Welsh-speaking workplaces, with contributions Helo Blod and Cwmni Fferyllwyr Llŷn.

💻 Join via Zoom: https://us02web.zoom.us/j/86188470724?pwd=lcqIhfOY8xhUg1VqviGCGV2ytXnsL7.1

Please email [email protected] to confirm attendance.

20/10/2026

Dyma Meinir yn siarad mwy am ei rôl fel Ymgynghorydd Arweiniol Addysg Lafan a’r gwaith mae ein Tîm Addysg yn ei wneud i gefnogi’r sector addysg yng Nghymru.

Gwyliwch y fideo i glywed mwy gan Meinir am ei rôl a gwaith y Tîm Addysg.

From educational consultancy and mentoring to evaluation and group support, our education team brings experience and expertise to help individuals and organisations develop, improve and make a difference.

Find out more here: https://lafan.cymru/addysg

Sut gallwn ni helpu dysgwyr i ddeall a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ddiogel ac yn gyfrifol?Ymunwch â ni ar...
19/10/2026

Sut gallwn ni helpu dysgwyr i ddeall a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ddiogel ac yn gyfrifol?

Ymunwch â ni ar gyfer gweminar i ddysgu mwy am adnodd AI pum gwers sydd wedi’i addasu a’i gyfieithu i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Byddwn yn edrych ar sut mae’r adnodd yn helpu dysgwyr i archwilio AI, dysgu peirianyddol, data, rhagfarn a chamwybodaeth, gan ddatblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol.

📅 26 Tachwedd | 16:00–16:45 | Ar-lein

👉 Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/ai-education-resource-webinargweminar-ai-ar-gyfer-addysgwyr-tickets-2003121488294

***

How can we help learners understand and use Artificial Intelligence (AI) safely and responsibly?

Join us for a webinar exploring a five-lesson AI resource adapted and translated to align with the Curriculum for Wales and the Digital Competence Framework.

Discover how the resource helps learners explore AI, machine learning, data, bias and misinformation, while developing the critical thinking skills needed to navigate an increasingly digital world.

📅 26 November | 16:00–16:45 | Online

👉 Register here: https://www.eventbrite.co.uk/e/ai-education-resource-webinargweminar-ai-ar-gyfer-addysgwyr-tickets-2003121488294

Run Don't Walk Addysg Cymru M-SParc Learn Welsh Cardiff - Dysgu Cymraeg Caerdydd

Address

M-SParc Menai Science Park
Gaerwen
LL606AG

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ymgynghori Lafan Consulting posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Nearby businesses


Other Consulting Agencies in Gaerwen

Show All